Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Tachwedd 2015

 

 


Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diwygio Lles a Gwaith

1.     Ar 3 Tachwedd 2015 cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i wahodd y Pwyllgor Menter a Busnes i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaetholar gyfer y Bil Diwygio Lles a Gwaith.

2.    Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 10 Rhagfyr 2015.